Prif Gwnstabl Julian Williams (Llun: Heddlu Gwent)
Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi mai  Julian Williams ydi’r Prif Gwnstabl newydd.

Bu Julian Williams yn gyn-Ddirprwy Brif Gwnstabl Gwent, ac mae wedi bod yn Brif Gwnstabl Gweithredol ar y llu ers dechrau Gorffennaf.

Mae’n Bennaeth Plismona dros gaethwasanaeth modern a masnachu pobol, a hefyd wedi bod yn Gomander Arfau Tanio am bymtheg mlynedd. Mae gan y swyddog 28 blynedd o brofiad o blismona.

Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, sydd yn gyfrifol am y penodiad, ac mi fydd yn dal y Prif Gwnstabl newydd yn atebol ar ran pobol Gwent.

“Braint gwasanaethu pobol Gwent”

“Rwyf wrth fy modd â’r ffaith bod y panel Heddlu a Throseddu wedi cymeradwyo penderfyniad y Comisiynydd Heddlu a Throseddu i fy mhenodi’n Brif Gwnstabl,” meddai Julian Williams.

“Mae wir yn fraint i wasanaethu pobol Gwent a dw i’n falch i lenwi rôl Prif Gwnstabl o fewn llu sydd â thraddodiad cryf o lwyddiant.”

“Dw i’n edrych ymlaen at weithio gyda’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu i weithredu’r cynllun trosedd ac i sicrhau ein bod yn parhau i gynnig gwasanaeth effeithiol ac effeithlon i’n preswylwyr.”