Mae bachgen 16 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o droseddau brawychol wrth iddo baratoi i adael y Deyrnas Unedig, meddai’r heddlu.

Cafodd y llanc o Gaint ei arestio gan swyddogion gwrth-frawychol ym Maes Awyr Stansted yn Essex tua 4yp ddydd Sul wrth iddo baratoi i fynd ar fwrdd awyren oedd ar daith ryngwladol.

Dywed Heddlu Dyffryn Tafwys ei fod wedi’i arestio “ar amheuaeth o gasglu gwybodaeth a allai fod yn ddefnyddiol i berson oedd yn cyflawni neu’n paratoi gweithred frawychol.”

Mae’r bachgen yn cael ei gadw yn y ddalfa.

Daw’r digwyddiad bron i bythefnos ar ôl i lanc arall gael ei arestio am droseddau brawychol honedig, sydd ddim yn gysylltiedig â’r achos hwn.

Cafodd y bachgen 17 oed ei arestio yn Redhill, Surrey ar 11 Gorffennaf a’i gyhuddo o ddosbarthu cyhoeddiadau brawychol a pharatoi gweithredoedd brawychol.

Ar ddiwedd mis Mehefin cafodd bachgen arall 17 oed ei arestio yng Nghaerdydd.

Cafodd y llanc, o ardal Rhondda Cynon Taf, ei gyhuddo’n ddiweddarach o gynllwynio ymosodiad brawychol ac o roi llun a sylwadau ar Instagram yn annog eraill i gyflawni gweithredoedd brawychol.