Craig yr Ysfa (Llun: Wikimedia Commons)
Mae dyn wedi cael ei gludo i’r ysbyty mewn hofrennydd ar ôl cwympo ar Graig yr Ysfa yn y Carneddau.
Roedd e’n dringo i lawr y mynydd dros nos pan aeth i drafferthion am oddeutu 2.15yb.
Cafodd anafiadau i’w goes.
Doedd hofrennydd o Gaernarfon ddim wedi gallu ei gyrraedd oherwydd gwyntoedd cryfion.
Mae e’n derbyn triniaeth yn Ysbyty Gwynedd.