Mae pryder fod pobol wedi’u dal mewn bloc o fflatiau yng ngorllewin Llundain wrth i dân mawr ledu drwy’r adeilad.
Yn ôl Gwasanaeth Ambiwlans Llundain mae 30 o bobol yn cael eu trin mewn pum ysbyty yn dilyn y tân yn yr adeilad 27 llawr, Grenfell Tower yn Kensington.
Mae’n debyg i’r tân ddechrau ychydig wedi 1yb dydd Mercher gyda 200 o swyddogion tân wedi’u hanfon i’r safle, ond nid yw achos y tân wedi’i gadarnhau.
Mae’r gwasanaeth tân yn annog pobol i gadw draw o’r adeilad, ac mae cyfyngiadau traffig yn eu lle yn yr ardal.
Yn ogystal, mae Heddlu’r Met wedi sefydlu llinell gymorth i bobol sy’n poeni am ffrindiau a theulu a allai fod wedi cael eu heffeithio, sef 0800 0961 233.
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi anfon cofion at drigolion Twr Grenfell.