Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth yn dilyn adroddiadau am ddynes yn cael ei gorfodi i mewn i fan yn erbyn ei hewyllys ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Gwnaeth aelod o’r cyhoedd ddweud wrth swyddogion ei fod wedi gweld y digwyddiad am 5.45yh ddydd Llun, ger goleuadau traffig croesffordd Bryntirion.

Cafodd dynes ei gweld yn gadael y fan Transit wen, cyn i ddyn fynd ar ei hôl a’i gorfodi yn ôl i mewn i’r cerbyd.

Yn dilyn hyn, fe yrrodd y cerbyd i gyfeiriad Bryntirion. Rhan o rif cofrestru’r car yw CV07.

Roedd y ddynes yn wyn, â gwallt golau wedi ei glymu yn ôl. Roedd hi’n gwisgo top patrymog, llachar.

Roedd y dyn oedd yn gyrru’r cerbyd yn 5 troedfedd 7 modfedd, ychydig yn dew, gyda gwallt golau wedi’i eillio. Roedd yn gwisgo siaced felen lachar.