Heddlu Llundain ger London Bridge wedi'r ymosodiad brawychol, Llun: PA
Cafodd cyrch ei gynnal mewn dau eiddo yn nwyrain Llundain yn dilyn yr ymosodiad brawychol yn Llundain ddydd Sadwrn.

Dywedodd Heddlu’r Metropolitan bod swyddogion wedi chwilio eiddo yn Newham a Barking am 4.15yb ddydd Llun a bod “nifer” o bobl wedi’u harestio.

Mae’r chwilio’n parhau yn y ddau eiddo, meddai’r heddlu.

Cafodd saith o bobl eu lladd a 48 eu hanafu ar ôl i fan yrru tuag at gerddwyr ar London Bridge cyn i ymosodwyr drywanu plismon a phobl yn ardal Borough Market gyda chyllyll tua 10yh nos Sadwrn. Mae 21 o bobl mewn cyflwr difrifol.

Bu cannoedd o bobl yn cuddio mewn tafarndai a bwytai wrth i’r ymosodwyr gerdded y strydoedd.

Cafodd y tri dyn eu saethu’n farw gan wyth plismon arfog tu allan i dafarn. Cafodd person oedd yn sefyll gerllaw hefyd ei saethu.

Adnabod y tri

Dywed yr heddlu eu bod nhw’n gwybod pwy yw’r dynion oedd wedi cynnal yr ymosodiad ac y byddan nhw’n cyhoeddi eu henwau “mor fuan â phosib.”

Cafodd saith dynes a phum dyn rhwng 19 a 60 oed eu harestio  o dan y Ddeddf Brawychiaeth yn Barking ddydd Sul, meddai Scotland Yard. Cafodd dyn 55 oed ei ryddhau’n ddiweddarach yn ddigyhuddiad.

Mae’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn honni mai eu hymladdwyr nhw oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad.

Daw’r ymosodiad nos Sadwrn yn fuan wedi’r ymosodiad brawychol gan Khalid Masood pan yrrodd gerbyd at bobl ar Westminster Bridge.

“Gormod o oddefgarwch”

Dywed yr heddlu y bydd rhagor o blismyn arfog ar ddyletswydd yn Llundain dros y dyddiau nesaf ynghyd a mesurau diogelwch “i gadw’r cyhoedd yn ddiogel ar bontydd Llundain.”

Mae’r Prif Weinidog Theresa May wedi dweud bod “gormod o oddefgarwch tuag at eithafiaeth yn ein gwlad,” gan gyhoeddi strategaeth i fynd i’r afael a brawychiaeth.

Ymhlith y dioddefwyr cyntaf i gael eu henwi mae Christine Archibald, o Ganada a symudodd i Ewrop i fod gyda’i dyweddi, a James McMullan, 32 oed, o Hackney yn Llundain.