Plismon tu allan i Arena Manceinion wedi'r ffrwydrad nos Lun (Llun: Peter Byrne/PA Wire)
Mae 22 o bobol, gan gynnwys plant, wedi’u lladd a thua 59 wedi’u hanafu yn dilyn ffrwydrad mewn cyngerdd ym Manceinion neithiwr.

Digwyddodd y ffrwydrad tua 10.30yh nos Lun yn Arena Manceinion lle’r oedd plant a phobol ifanc yn y dorf gan fwyaf yn gwylio cyngerdd gan y gantores bop, Ariana Grande.

Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Manceinion, Ian Hopkins eu bod yn ei drin fel “digwyddiad brawychol tan fydd gennym wybodaeth bellach.”

Ychwanegodd mai un dyn oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad a’i fod wedi bod yn cario dyfais ffrwydrol. Bu farw  yn y digwyddiad.

Daeth adroddiadau tua 10.30yh wrth i dystion glywed sŵn ffrwydrad o gyfeiriad cyntedd yr arena, ac mae’r bobol sydd wedi’u hanafu yn cael eu trin mewn chwech o ysbytai yn ardal Manceinion.

‘Ymosodiad barbaraidd’

Mae’r Prif Weinidog Theresa May wedi condemnio’r digwyddiad gydag ymgyrchu ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol wedi’i ohirio heddiw gan bob un o’r pleidiau, ac fe fydd yn cadeirio pwyllgor brys Cobra y bore yma.

Mae Ysgrifennydd Cartref Llywodraeth Prydain, Amber Rudd, wedi galw’r digwyddiad yn “ymosodiad barbaraidd, yn targedu’n fwriadol rhai o’r mwyaf bregus yn ein cymdeithas – plant a phobol ifanc mewn cyngerdd pop.”

“Newyddion arswydus”

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi trydar gan ddweud – “newyddion arswydus o Fanceinion. Mae fy meddyliau gyda’r rheini a effeithiwyd gan yr ymosodiad erchyll a’u teuluoedd.”

Mae’r Heddlu wedi sefydlu llinell gymorth ar gyfer pobol sy’n poeni am deulu a ffrindiau ynghlwm â’r digwyddiad, sef 0161 856 9400.