Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cael rhagor o amser i holi pump o bobol mewn cysylltiad â llofruddiaeth dyn 37 oed yn y Rhyl yn oriau man fore Sul.

Bu farw’r dyn o Fanceinion yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan ar ôl cael ei drywanu yn Rhodfa Tywysog Edward yn Y Rhyl ar Ebrill 30.

Cafodd tri dyn arall driniaeth yn yr ysbyty am anafiadau sydd ddim yn rhai sy’n bygwth eu bywyd.

Mae pedwar bachgen lleol – rhwng 15 ac 17 oed – yn cael eu holi gan yr heddlu ar amheuaeth o lofruddiaeth ynghyd a dyn 43 oed o’r Rhyl.

Dywed Heddlu’r Gogledd fod pum dyn arall, sydd ddim yn dod o ogledd Cymru, wedi eu harestio ar amheuaeth o achosi ffrwgwd ac anafu.

Mae’r 10 dyn yn parhau yn y ddalfa yng ngorsaf yr heddlu yn Llanelwy.