Mae Heddlu’r De’n apelio ar ôl i ddyn 64 oed fynd ar goll yn Abertawe.
Dydy Robert Bartlett o Bort Talbot ddim wedi cael ei weld ers iddo adael marchnad y ddinas am 11.50 fore ddoe.
Mae lle i gredu ei fod e wedi mynd adref, ond ei fod e wedi mynd ar goll wedyn.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu’r De ar 101.