Regan Bennett (Llun: Heddlu'r De)
Mae Heddlu’r De’n apelio am wybodaeth ar ôl i lanc 17 oed fynd ar goll o ardal Caerau ger Caerdydd.
Cafodd ei weld ddiwethaf am 6.30pm neithiwr yn ardal Treganna’r brifddinas.
Mae e’n 5’10”, o gorffolaeth ganolig a chanddo wallt brown i’w ên.
Pan aeth e ar goll, roedd e’n gwisgo siaced goch, siwmper ddu a jeans glas.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu’r De ar 101.