Alexander Blackman Llun: Y Weinyddiaeth Amddiffyn
Fe allai cyn-aelod o’r Môr-filwyr Brenhinol, a oedd wedi saethu ymladdwr gyda’r Taliban yn farw yn Afghanistan, gael ei ryddhau o’r carchar o fewn wythnosau.

Cafodd y Sarsiant Alexander Blackman, 42, o Wlad yr Haf ei ddedfrydu i saith mlynedd o garchar heddiw ar gyhuddiad o ddynladdiad, ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll, ar ôl i’w ddedfryd o lofruddiaeth gael ei diddymu.

Oherwydd yr amser mae eisoes wedi’i dreulio yn y carchar ers iddo gael ei ddedfrydu yn wreiddiol ym mis Tachwedd 2013, fe allai penderfyniad pump o farnwyr yn Llys Apêl y Llysoedd Marsial heddiw olygu y gallai Alexander Blackman gael ei ryddhau fis nesaf.

Mae eisoes wedi treulio tair blynedd a hanner yn y carchar.

Roedd ’na gymeradwyaeth ymhlith cyn-filwyr eraill yn y galeri cyhoeddus wrth i’r barnwyr gyhoeddi’r ddedfryd.

Roedd Llys Apêl y Llysoedd Marsial wedi dyfarnu’n gynharach nad oedd Alexander Blackman yn ei iawn bwyll pan laddodd y dyn, a oedd wedi’i anafu, yn 2011 yn nhalaith Helmand, a’i fod wedi bod dan “bwysau sylweddol” wrth wasanaethu yn Afghanistan.

Yn ystod yr achos gwreiddiol, roedd Alexander Blackman wedi gwadu llofruddio’r ymladdwr, gan ddweud ei fod yn credu bod y dyn eisoes wedi marw a’i fod wedi saethu at ei gorff er mwyn dangos ei ddicter.