Yr Ysgrifennydd Cartref, Amber Rudd
Mae negeseuon ffonau symudol sydd wedi’u cloi, fel WhatsApp, wedi cael eu beirniadu oherwydd y posibilrwydd eu bod yn caniatáu i frawychwyr gyfathrebu gyda’i gilydd heb gael eu dal.

Mae’n dilyn adroddiadau bod Khalid Masood, a oedd yn gyfrifol am ymosodiad San Steffan ddydd Mercher diwethaf, wedi bod yn defnyddio’r ap eiliadau’n unig cyn iddo yrru car at gerddwyr ac yna ymosod ar blismon ger Palas San Steffan.

Mae dau ddyn yn parhau i gael eu cadw yn y ddalfa yn dilyn yr ymosodiad yn Llundain.

Mae’r Ysgrifennydd Cartref Amber Rudd wedi galw ar y rhwydweithiau i ganiatáu mynediad i’w system fel bod y gwasanaethau diogelwch yn gallu mynd at negeseuon brawychwyr yn ystod eu hymchwiliadau.

Dywedodd Amber Rudd na ddylai’r negeseuon  fod yn “fan dirgel” i frawychwyr.