Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau fod dyn wedi marw yn dilyn damwain ger Yr Wyddgrug fore heddiw.

Fe gafodd plismyn eu galw i safle’r gwrthdrawiad ar Ffordd Nercwys toc cyn hanner dydd, wedi i gar Fiat 500 a beic moped fynd benben.

Er i’r Ambiwlans Awyr ac i’r gwasanaethau brys eraill ymateb i’r alwad, bu farw’r dyn oedd ar gefn y moped yn y fan a’r lle.

Mae’r heddlu yn dal i apelio am dystion.