Cafodd dau ddyn eu hanafu yn ystod ymosodiad homoffobig arnyn nhw gan ddyn a dynes ar dram ym Manceinion.

Cafodd y ddau, sydd yn eu 40au, eu taro a’u cicio wrth i’r pedwar deithio drwy’r ddinas ar Ionawr 22, ac fe fu’n rhaid iddyn nhw dderbyn triniaeth yn yr ysbyty.

Roedd y pedwar wedi bod yn ffraeo ar y tram am oddeutu 10.30pm.

Dywedodd Heddlu Manceinion na fyddan nhw’n derbyn y fath droseddau, ac maen nhw wedi apelio am dystion.