Mae dynes ifanc yn dal i fod mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty, yn dilyn tân bwriadol mewn ty a laddodd ei chariad.

Roedd Cameron Logan, 23, wedi bod yn dathlu’r Flwyddyn Newydd gyda Rebecca Williams cyn iddyn nhw ddychwelyd i gartref ei deulu o yn Milngavie, Dwyrain Sir Dunbarton, yn ystod oriau mân dydd Sul.

Mae Heddlu’r Alban wedi cadarnhau bod tân wedi’i gynnau’n fwriadol, a bod corff Cameron Logan wedi’i ganfod tua 7.25yb. Mae Rebecca Williams, 24, yn derbyn triniaeth yn Ysbyty’r Frenhines Elisabeth yn ninas Glasgow, ac mae rhieni Mr Logan wedi derbyn triniaeth ar ôl anadlu mwg. Bu farw ci’r teulu, Gomez, yn y tân.

Nid oes manylion eto am achos y tân, ond mae’r tîm ymchwilio wedi dweud yn bendant iddo gael ei gynnau’n fwriadol. Mae Heddlu’r Alban yn trin yr achos fel un o lofruddiaeth ac o geisio llofruddio.