Y difrod wedi i fom ffrwydro yn nhafarn y Mulberry Bush, Birmingham yn 1974 Llun: PA
Mae’r Crwner i’r cwest i farwolaethau 21 o bobol a fu farw mewn ffrwydradau yn Birmingham yn 1974 wedi cefnogi galwad y teuluoedd am gyllid cyfreithiol.

Dywedodd Peter Thornton QC, ei fod am weld y mater ynglŷn â chyllido yn cael ei ddelio erbyn y flwyddyn nesaf, ond nad oedd ganddo ef y pŵer na’r awdurdod i sicrhau’r gyllideb honno.

Ar 21 Tachwedd 1974, fe wnaeth yr IRA blannu dau fom a wnaeth ledaenu drwy rai o dafarnau Birmingham gan ladd 21 o bobol ac anafu 182.

Fe wnaeth ymchwiliad cychwynnol yr heddlu arwain at gyhuddo ar gam y ‘Chwech Birmingham’.

Heddiw oedd gwrandawiad rhagarweiniol cyntaf y  cwest, ac yn ôl Peter Thornton:

“Rwy’n dymuno dweud fy mod yn cefnogi ceisiadau’r teuluoedd sydd eisiau cymryd rhan yn llawn yn y cwest drwy gynrychiolaeth gyfreithiol,” meddai.

“Roedd y rhain yn ddigwyddiadau trychinebus ac mae angen ymchwiliad llawn a theg.”

Dywedodd ei fod yn gobeithio y bydd y cyllid yn cael ei gymeradwyo o leiaf chwe wythnos cyn y gwrandawiad rhagarweiniol nesaf ar Chwefror 23.

Does dim disgwyl y bydd gwrandawiad llawn y cwest yn dechrau tan fis Medi 2017.