Jo Cox AS (Llun: Yui Mok/PA)
Mae dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio’r Aelod Seneddol Llafur Jo Cox wedi penderfynu peidio rhoi tystiolaeth yn yr achos.

Honnir bod Thomas Mair, 53, wedi saethu a thrywanu’r fam i ddau o blant wrth iddi gyrraedd llyfrgell Birstall yn ei hetholaeth ar 16 Mehefin – wythnos cyn refferendwm yr Undeb Ewropeaidd.

Clywodd y llys bod Mair, yr honnir sy’n eithafwr asgell dde, wedi gweiddi “Prydain yn gyntaf” yn ystod yr ymosodiad a bod ganddo eitemau yn gysylltiedig â’r Natsïaid yn ei gartref yng ngorllewin Swydd Efrog.

Roedd Jo Cox, 41 oed, wedi bod yn ymgyrchu o blaid aros yn rhan o Ewrop cyn y refferendwm.

Ar ôl i’r erlyniad orffen gyflwyno’u hachos, dywedodd ei gyfreithiwr Simon Russell Flint, QC wrth yr Old Bailey na fyddai’r diffynnydd yn rhoi tystiolaeth.

Mae Mair yn gwadu llofruddio Jo Cox, bod a dryll yn ei feddiant gyda’r bwriad o gyflawni trosedd,  ac o fod a chyllell yn ei feddiant.

Mae hefyd yn gwadu achosi niwed corfforol difrifol bwriadol i’r pensiynwr  Bernard Kenny pan geisiodd atal yr ymosodiad ar Jo Cox.