Mae dyn a dynes yn cael eu holi ar amheuaeth o drywanu dyn 51 oed i farwolaeth yn Lerpwl.

Cafodd y dyn anafiadau i’w fraich yn dilyn y digwyddiad yn ardal Walton y ddinas, ac fe fu farw yn yr ysbyty.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am oddeutu 9.50pm neithiwr.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Glannau Mersi fod dyn 46 oed a dynes 37 oed o Everton wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio’r dyn, a’u bod yn cael eu holi yn y ddalfa.

Mae ymchwiliad ar y gweill, ac mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth.