Mae’r heddlu yn ymchwilio i achos honedig o drais gan un o gynorthwywyr Aelod Seneddol Ceidwadol yn y Senedd yn San Steffan.

Cafodd Sam Armstrong, 23, cynorthwy-ydd AS De Thanet, Craig Mackinlay, ei arestio wythnos ddiwethaf.

Dywed yr heddlu bod dyn wedi’i arestio ar amheuaeth o dreisio yn dilyn ymosodiad honedig yn ystod oriau mân bore dydd Gwener, Hydref 14.

Mae’r Heddlu Metropolitan wedi cadarnhau nad Aelod Seneddol yw’r dyn sydd o dan sylw, ac mae wedi’i ryddhau ar fechnïaeth tan tua chanol mis Ionawr 2017 tra bod ymchwiliadau pellach yn cael eu cynnal.

Dywedodd llefarydd ar ran y Tŷ’r Cyffredin, “rydym yn ymwybodol o ddigwyddiad a ddigwyddodd ar ystâd y senedd sy’n cael ei archwilio gan Wasanaeth Heddlu Metropolitan.

“Mae’r Senedd yn gweithio’n agos gyda’r heddlu yn eu hymchwiliad ac ni allwn gynnig sylwadau pellach tra bo’r ymchwiliad yn parhau.”