Mae’r heddlu yng Nghaeredin yn trin achos o roi mosg ar dân fel trosedd casineb.

Roedd peth difrod i’r mosg a’r gerddi yn Potterow yn dilyn y tân am oddeutu 2.10 fore Sul.

Dywedodd yr heddlu na chafodd unrhyw un anafiadau yn dilyn y digwyddiad.

Mae ymchwiliad ar y gweill.