Mae disgwyl i ddyn 24 oed o Glasgow a gafodd ei dynnu oddi ar awyren oedd yn teithio o Lundain i Florida gael dychwelyd adref ddydd Sul.

Dydy union fanylion yr achos ddim wedi cael eu datgelu, ond fe fydd rhaid iddo ddychwelyd i Boston, lle cafodd ei gadw yn y ddalfa, yn y dyfodol.

Mae’r heddlu ym Massachusetts wedi rhoi gorchymyn iddo ddychwelyd i’r llys.

Roedd yr awyren yn teithio o Gatwick o Orlando ddydd Iau, ond fe fu’n rhaid glanio’n annisgwyl yn Boston yn dilyn y digwyddiad.