Mae dyn 47 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio dynes 48 oed yn Sheffield.

Cafwyd hyd i gorff y ddynes nos Sadwrn ar ôl i’r heddlu gael eu galw i dŷ yn y ddinas am oddeutu 7.50 nos Sadwrn.

Mae’r dyn gafodd ei arestio’n cael ei holi yn y ddalfa.

Mae’r heddlu’n trin marwolaeth y ddynes fel un amheus ac fe fydd archwiliad post-mortem yn cael ei gynnal yn ddiweddarach.