Llong fferi yr Isle of Inishmore (CCA 3.0)
Mae’r chwilio wedi ei atal dros dro am aelod o griw fferi yn dilyn pryder ei fod wedi disgyn i’r môr ger glannau Sir Benfro.

Gwylwyr y glannau sy’n arwain yr ymdrech i ddod o hyd i’r dyn, a aeth ar goll ddydd Iau oddi ar fferi yr Isle of Inishmore.

Fe gafodd ei weld am y tro ola’ tua thri chwarter awr cyn i long Irish Ferries gyrraedd Doc Penfro o Rosslare.

Yn ôl Asiantaeth Glan Môr a Gwylwyr y Glannau, roedd hofrennydd o Sain Tathan, dau fad achub o Dŷ Ddewi a dau fad achub o Angle a Weston-super-Mare wedi bod yn chwilio.

“Daeth y chwilio i ben am 10 o’r gloch (nos Iau) wrth iddi nosi, a bydd yn ailddechrau ar ôl iddi wawrio dydd Gwener,” meddai’r asiantaeth neithiwr ond erbyn hyn mae’n glir y bydd oedi cyn ailddechrau, nes cael gwybodaeth bellach.