Llun llyfrgell - y Gwasanaeth Ambiwlans
Mae negeseuon cydymdeimlad wedi dod o sawl rhan o wledydd Prydain ar ôl i yrrwr ambiwlans gael ei ladd mewn damwain gydag ambiwlans arall yn Mhenrhyn Llŷn.

Mae tri o bobol eraill yn cael triniaeth hefyd ar ôl y gwrthdrawiad ar ffordd fawr yr A499 yn y Ffôr ar gyrion Pwllheli ganol y prynhawn ddoe.

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, roedd un o’r ddau gerbyd wedi croesi’r ffordd a tharo’r llall.

Mae negeseuon cydymdeimlad wedi dod gan weithwyr gwasanaethau brys ar draws Lloegr ac o Ogledd Iwerddon wrth i Wasanaeth Ambiwlans Cymru gynnig cymorth i’w gweithwyr eu hunain yn ardal Gwynedd.

Anodd

“A ninnnau’n wasanaeth ambiwlans, rydyn ni’n delio gyda damweiniau ffyrdd bob dydd,” meddai Richard Lee, cyfarwyddwr gweithrediadau Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

“Maen nhw wastad yn bethau anodd i’n staff ddelio â ni, ond mae hyd yn oed yn waeth pan fyddan nhw’n ymwneud â chydweithwyr.

“Mae gyda ni gynlluniau ar droed i gefnogi ein staff ym Mhwllheli ac yn ardal ehangach Gwynedd tros y dyddiau nesa’.”

Y ddamwain

Roedd y ddamwain tua thri o’r gloch brynhawn ddoe, rhwng ambiwlans ymateb brys ac ambiwlans ofal – gyrrwr honno sydd wedi marw.

Fe gafodd dwy ambiwlans awyr a thair ambiwlans ffordd eu hanfon i’r digwyddiad, ynghyd â saith criw o baramedics.

Fe gafodd tri o bobol o’r ambiwlans ymateb brys eu cludo i Ysbyty Gwynedd Bangor  ble maen nhw mewn cyflwr difrifol.