Mae bachgen a merch 14 oed wedi ymddangos gerbron llys ar gyhuddiad o lofruddiaeth ar ôl i gyrff dynes a’i merch gael eu darganfod mewn tŷ.

Cafwyd hyd i Elizabeth Edwards, 49, a’i merch Katie, 13, mewn eiddo yn Heol Dawson, yn Spalding, Swydd Lincoln ddydd Gwener.

Fe ymddangosodd y bachgen a’r ferch gerbron Llys Ieuenctid Lincoln y bore ma.

Fe fyddan nhw’n mynd gerbron Llys y Goron Lincoln prynhawn ma.

Fe gawson nhw eu cadw mewn canolfan i droseddwyr ifanc tan y gwrandawiad.