Llys yr Old Bailey yn Llundain
Mae’r rheithgor wedi dechrau ystyried eu dyfarniad yn achos tri dyn sydd wedi’u cyhuddo o helpu llanc o Gaerdydd i deithio i Syria i ymuno a’r Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Honnir bod Kristen Brekke, Adeel Ulhaq a Forhad Rahman wedi  cymryd rhan mewn cynllwyn i gael  Aseel Muthana i Syria er mwyn ymuno a’i frawd hŷn.

Roedd Muthana yn 17 oed pan adawodd ei gartref yng Nghaerdydd ar 21 Chwefror 2014 er mwyn ymuno a’r grŵp eithafol IS, ac nid yw wedi dychwelyd.

Clywodd yr Old Bailey ei fod wedi dilyn ei frawd, Nasser Muthana, a oedd wedi teithio i Syria gyda phedwar dyn ifanc arall o Gaerdydd tri mis cyn hynny.

Pasbort

Honnir bod Rahman, 21, o Cirencester, Swydd Gaerloyw, wedi helpu Muthana, sydd bellach yn 19 oed, i gael pasbort ac wedi talu am ei daith awyren a thocyn bws i Gatwick.

Roedd Rahman wedi ei roi mewn cysylltiad â Ulhaq, 21, o Swydd Nottingham am gyngor ynglŷn â theithio yno, clywodd y rheithgor.

Yn ôl yr erlyniad, roedd gan Rahman ddiddordeb mewn eithafiaeth Islamaidd ac wedi mynegi ei ddymuniad i deithio i Syria ei hun.

Roedd Brekke, 20, o Grangetown, wedi dod yn gyfeillgar gyda Muthana tra roedd y ddau yn gweithio mewn siop hufen ia yng Nghaerdydd, a honnir ei fod wedi prynu dillad ar eBay ar gyfer Muthana.

Mae Kristen Brekke, Adeel Ulhaq a Forhad Rahman yn gwadu cynorthwyo gweithredoedd brawychol. Mae Ulhaq hefyd yn gwadu ariannu brawychiaeth.