Llys y Goron Caerdydd
Mae dau cyn-dditectif wedi cael eu carcharu am ddwy flynedd yr un ar ôl eu cael yn euog o ddwyn yn Llys y Goron Caerdydd heddiw.

Roedd y cyn-Dditectif Gwnstabl Michael Stokes a’r cyn-Dditectif Sarjant Stephen Phillips wedi gwadu dwyn £10,000 o sêff yn ystod cyrch cyffuriau’r heddlu mewn eiddo yn Abertawe.

Clywodd y llys bod Heddlu De Cymru wedi cynnal cyrch ar gartref Joedyn Luben yn Abertawe yn 2011 fel rhan o gyrch cyffuriau.

Ni chafodd cyhuddiadau eu dwyn yn erbyn Joedyn Luben a chafodd yr arian ei ddychwelyd gan Heddlu’r De yn 2013.

Ond yn ddiweddarach fe wnaeth Luben gwyn swyddogol yn erbyn yr heddlu gan ddweud fod swm sylweddol o’r arian ar goll.

Roedd Stokes 35, o Lyn-Nedd, wedi gwadu tri chyhuddiad o ddwyn a Phillips, 47, o Abertawe,  wedi gwadu dau gyhuddiad o ddwyn.

Cafwyd Stokes yn ddieuog o un cyhuddiad o ddwyn gan y rheithgor a chafwyd y ddau yn ddieuog o gyhuddiad arall yn dilyn cyfarwyddyd gan y Barnwr Eleri Rees.

Wythnos diwethaf, cafwyd y Ditectif Gwnstabl, Christopher Evans, 38 oed o Langennech yn ddieuog o ddwyn.

Mae Stokes a Phillips wedi cael eu dedfrydu i ddwy flynedd o garchar.

‘Ymddygiad llwgr’

Mewn ymateb i’r dyfarniad y prynhawn yma, fe ddywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru, Jon Stratford, fod hyn yn “ganlyniad i ymchwiliad trylwyr a phenderfynol a gynhaliwyd gan Heddlu De Cymru.”

“Mae’n tystio ein hymrwymiad i fynd i’r afael â datrys llygredd o fewn yr heddlu,” ychwanegodd.

“Mae swyddogion yr heddlu yn dal swyddi cyfrifol ac mae angen gosod y safonau uchaf posibl wrth wasanaethu pobl de Cymru,” meddai Jon Stratford gan ddweud fod y swyddogion wedi “bradychu’r ymddiriedaeth.”

Er hyn, fe ddywedodd fod “mwyafrif helaeth o’n swyddogion a’n staff yn cyflawni eu dyletswyddau yn broffesiynol, cadarnhaol a gyda balchder.”

“Mae’r dynion yn awr yn wynebu dedfrydau carchar, ac rwy’n gobeithio y bydd hyn yn anfon neges glir a diamwys y bydd Heddlu De Cymru yn adnabod ac yn delio ag unrhyw un sy’n cymryd rhan yn y math hwn o ymddygiad llwgr.”