Mae llys crwner wedi clywed bod un o’r 96 o bobol fu farw yn Hillsborough yn 1989 wedi cael ei adnabod gan yr heddlu hyd at 12 awr cyn i’w deulu gael y cyfle i’w adnabod yn ffurfiol.

Roedd James Aspinall, 18, wedi teithio ar y bws o Lerpwl i Sheffield gyda’i ffrind Graham Wright, 17, ar y diwrnod y digwyddodd y trychineb.

Roedd ei dad, Jimmy wedi teithio i’r gêm ar ei ben ei hun, ac roedd e mewn rhan arall o’r cae pan ddigwyddodd y trychineb.

Wrth i’r gêm gael ei hatal, dychwelodd ei dad i’w gar cyn gyrru i flwch ffôn i ffonio’i wraig.

Roedd hi eisoes wedi cael gwybod gan y cwmni bws nad oedd ei mab ar un o’u bysus.

Aeth ei dad ati i gysylltu ag ysbytai lleol yn y gobaith o ddod o hyd i James, ond doedd ei enw ddim ar yr un o restrau’r ysbytai.

Dychwelodd ei dad i Lerpwl i aros am y bysus ond doedd dim golwg o James.

Pan ddychwelodd Jimmy i Sheffield am 3.45 y bore canlynol, fe wnaeth e adnabod corff ei fab yn y gampfa.

Ond roedd yr heddlu eisoes wedi’i adnabod am 4.30 y prynhawn blaenorol, heb roi gwybod i’w deulu.

Wrth roi tystiolaeth i lys y crwner heddiw, dywedodd Margaret Aspinall: “Trwy gydol yr amser y gwnaeth fy ngŵr Jimmy chwilio am James yn Sheffield, ro’n i’n dal i fod gartref yn aros am newyddion.

“Wnes i ddim cael gwybod am farwolaeth James tan 6 o’r gloch ar y bore Sul, pan ddaeth fy ngŵr Jimmy a fy mab David adref.”

Roedd y ddau frawd wedi bod mewn cawell ar derasau Leppings Lane cyn dechrau’r gêm gwpan rhwng Lerpwl a Nottingham Forest.

Roedd lluniau camerâu cylch-cyfyng wedi’i ddangos yn gorwedd ar lawr ar y cae, ac roedd arbenigwyr meddygol yn rhoi triniaeth iddo am 3.26yp.

Dywedodd y Cwnstabl Robert Fox o Heddlu De Swydd Efrog mewn datganiad yn 1990 ei fod wedi ceisio achub bywyd James Aspinall am “ychydig funudau” ond bod y llanc “wedi marw”.

Dywedodd ei fod wedi checio ei bỳls a’i fod yn anadlu, ond clywodd y llys mai am ryw funud neu ddwy y bu gyda James.

Dywedodd na allai fod yn sicr bod James wedi marw erbyn hyn.

Dywedodd meddyg am 3.54yp ei fod wedi marw.