Un o longau cwmni P&O
Mae teithiwr wedi disgyn dros ochr llong bleser ger Ynys Wyth.
Y gred ydi fod y dyn wedi syrthio i’r dwr oddi ar long y Ventura wrth iddi ddychwelyd am Southampton wedi pythefnos o daith yn y Mor Canoldir.
Mae hofrennydd Gwylwyr y Glannau a badau achub wedi cael eu galw i’r ardal rhyw 25 milltir i’r de o borthladd St Catrin yn Ynys Wyth.
Mae’r llong a all gario hyd at 3,200 o deithwyr, ac sy’n eiddo i gwmni P&O ship, hefyd wedi bod yn rhan o’r gwaith chwilio, gan ail-greu ei llwybr trwy’r tonnau er mwyn i’r chwilwyr gael syniad gwell o’r daith.