Mae’r ymchwiliad i lofruddiaeth dyn 45 oed o Drealaw ger Tonypandy yn parhau.
Cafodd tri o bobol eu harestio yn dilyn y digwyddiad fore Sadwrn.
Cafodd yr heddlu eu galw i dŷ yn Ffordd Brithweunydd, Trealaw am 7.20 y bore.
Mae’r tri – dwy ddynes, 45 a 23 oed, ac un dyn 23 oed – a gafodd eu harestio yn dal i fod yn y ddalfa.
Mae’r heddlu’n parhau i apelio am wybodaeth.