Senedd Holyrood yn yr Alban
Mae disgwyl i Ysgrifennydd Cyfiawnder yr Alban, Michael Matheson roi adborth i aelodau Holyrood ynghylch nifer o ffaeleddau’r heddlu dros y misoedd diwethaf.

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Prif Gwnstabl Heddlu’r Alban, Syr Stephen House ei fod yn camu o’r neilltu’n gynt na’r disgwyl wedi iddo gael ei feirniadu’n gyhoeddus ac yn wleidyddol am gynlluniau ynghylch chwilio pobol sydd wedi’u hamau o dorri’r gyfraith, ffaeleddau canolfannau galwadau, heddlu arfog a diffyg ariannol.

Bydd dau adroddiad annibynnol ynghylch dulliau chwilio ac ymdrin â galwadau’n cael eu cyhoeddi cyn i Michael Matheson fynd gerbron Aelodau Seneddol yr Alban y prynhawn yma.

‘Ymddiriedaeth’

 

Bydd adroddiad gan Arolygydd Cwnstabliaeth yr Alban yn rhoi sylw i’r prosesau a arweiniodd at adael John Yuill a Lamara Bell yn farw mewn car am dridiau yn dilyn gwrthdrawiad.

Fe fydd y Grŵp Adolygu Stopio a Chwilio hefyd yn argymell camau i’w dilyn wrth chwilio plant, gan gyflwyno cod ymarfer ar gyfer y cyhoedd yn gyffredinol.

Mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon eisoes wedi dweud ei bod hi’n “benderfynol o sicrhau bod ein gwasanaethau heddlu yn effeithlon ac yn effeithiol, a’i fod yn ennyn ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd”.

Mae’r broses o benodi olynydd i Syr Stephen House eisoes ar y gweill, ac fe fydd enw cadeirydd newydd Awdurdod Heddlu’r Alban yn cael ei gyhoeddi cyn diwedd yr wythnos.