Roedd Benny Collins yn gweithio yn Ysbyty Treforys
Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi enw’r dyn a fu farw ddoe ar ôl mynd i drafferthion yn y môr ger Bae’r Tri Chlogwyn ym Mhenrhyn Gŵyr.

Cafodd Benny Collins, oedd yn 42 mlwydd oed, ei gludo i Ysbyty Treforys mewn ambiwlans awyr, lle bu farw’n ddiweddarach.

Cafodd ei fab, naw oed, hefyd ei gludo i adran frys yr ysbyty mewn ambiwlans.

Galwyd y gwasanaethau brys am tua 3 brynhawn ddoe i’w hachub o’r môr ger Abertawe.

Teyrngedau

Gweithiai Benny Collins fel ffisiotherapydd yn adran frys Ysbyty Treforys.

Mae ei wraig, Melanie Collins, hefyd yn gweithio fel nyrs yn yr ysbyty.

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg mewn datganiad i’r BBC: “Roedd Benny yn boblogaidd iawn, yn dalentog ac yn aelod o staff hynod o hoffus.”

Rhybuddion

Dyma’r ail farwolaeth ym Mae’r Tri Chlogwyn o fewn mis. Ym mis Mehefin bu farw dyn 42 oed wrth iddo geisio achub bachgen o’r môr.

Er bod y traeth yn adnabyddus am ei golygfeydd hyfryd, mae Gwylwyr y Glannau wedi rhybuddio bod crychdon gref yno sy’n gallu sgubo pobl allan i’r môr