Mae Heddlu Sir  De Efrog wedi’u beirniadu gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi (HMIC) yn dilyn y sgandal ecsbloetio plant yn rhywiol yn Rotherham.

Fe wnaeth yr adroddiad, a gafodd ei gyhoeddi fis Medi diwethaf, godi rhai “amheuon difrifol” am y ffordd yr oedd Heddlu De Efrog yn delio â diogelwch plant.

Cafodd 1,400 o blant eu hecsbloetio’n rhywiol yn Rotherham rhwng 1997 a 2013.

Bellach, mae arolygwyr yr adroddiad wedi gweld arwyddion o gynnydd yng ngwaith yr heddlu, ond maen nhw’n dal i ddweud fod “lle i wella” gan Heddlu Sir De Efrog wrth ymateb i achosion o drais a sicrhau gwasanaethau diogelwch i blant.

‘Methu adnabod y risgiau’

“Mae’n amlwg” meddai Mike Cunningham, Arolygwr Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi, “fod yna ddiffygion yn y ffordd y mae Heddlu Sir De Efrog yn delio â diogelwch plant”.

Ers yr archwiliad gwreiddiol fis Medi’r llynedd, mae HMIC wedi cynnal archwiliadau pellach i asesu cynnydd yr heddlu wrth archwilio 28 o achosion o gam-drin plant.

Fe wnaeth yr arolygwyr ganfod fod dau o’r rheiny wedi’u hasesu’n gadarnhaol, bod 19 angen gwelliannau a bod saith ohonynt yn ddiffygiol. Fe fydd Arolygwyr Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi yn parhau i asesu ymateb Heddlu Sir De Efrog i achosion o’r fath.

Fe wnaeth yr Heddlu ddangos arwyddion o welliannau wrth ymateb i blant sydd mewn perygl ac mewn niwed, ac mae diogelwch plant wedi’i flaenoriaethu ganddynt bellach, yn ôl HMIC.  Mae’r adroddiad hefyd yn cydnabod fod Heddlu Sir De Efrog wedi cydweithio ag asiantaethau eraill wrth sicrhau mannau o ddiogelwch i blant.

Er hyn, fe wnaeth yr arolygwyr ganfod nad oedd Heddlu Sir De Efrog yn medru “adnabod y risgiau” i blant sydd mewn cartrefi gofal.

“Does dim digon o gofnod o’r ymarferion hyn”, meddai Mike Cunningham, “ac mae hyn yn lleihau gallu’r staff i wneud y penderfyniadau gorau dros y plant.”

Y Cefndir

Cafodd o leiaf 1,400 o blant eu hecsbloetio’n rhywiol yn  Rotherham rhwng 1997 a 2013.

Fe wnaeth yr arolwg gwreiddiol, gan Alexis Jay, ganfod nad oedd gan Heddlu Sir De Efrog “ddealltwriaeth ddigonol” o’r risgiau tuag at blant bregus, a bod yr ymateb i achosion o ecsbloetio plant yn anwadal. Yn enwedig achosion o ecsbloetio marched ifanc yn rhywiol gan ddynion o fewn ardal Heddlu Sir De Efrog.

Arweiniodd hyn at gyfres o ymddiswyddiadau proffil uchel, gan gynnwys y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Shaun Wright, a oedd yn gyfrifol am wasanaethau plant rhwng 2005 a 2010.

Fe ddywedodd Karen Froggatt, cyfarwyddwr ar gyfer plant sy’n dioddef o ecsbloetio plant yn rhywiol ei bod hi’n arbennig o bryderus nad oedd swyddogion yr heddlu yn medru adnabod achosion o gam-drin.

“Mae angen i’r holl asiantaethau newid eu hagwedd a deall fod pobol ifanc yn aml yn fregus, a bod cyffuriau ac alcohol yn fygythiadau sy’n arwain at ymddygiad difrïol”.