Rebekah Brooks
Mae cyn-olygydd papur newydd y Sun, Rebekah Brooks, mewn “trafodaethau” ynglŷn â chael swydd newydd gyda News Corp.

Llai na blwyddyn yn ôl cafwyd hi, a’i gŵr Charlie, yn ddieuog o’r holl gyhuddiadau yn eu herbyn wedi achos llys yn yr Old Bailey yn ymwneud â hacio ffonau.

Roedd sôn y byddai Rebekah Brooks, oedd hefyd yn gyn-olygydd  y News of the World, dan ystyriaeth ar gyfer swydd gyda’r Sun ond yn ôl ffynonellau o’r papur newydd dyw hynny ddim yn wir.

Dywedodd llefarydd ar ran News Corp fodd bynnag eu bod mewn trafodaethau â’r cyn-olygydd i weld a fyddai swydd newydd yn gallu cael ei chreu iddi.

“Mae trafodaethau â Rebekah Brooks yn parhau, ac mae’r ffocws ar fusnes digidol newydd posib i News Corp, ond mae’n rhy gynnar i ddechrau trafod manylion y swydd gan nad yw’n bodoli eto,” meddai llefarydd ar ran News Corp.

Dechreuodd Rebekah Brooks ei gyrfa gyda phrofiad gwaith di-dâl mewn papur newydd lleol ac roedd hi’n ddirprwy olygydd y News of the World erbyn ei bod hi’n 27 oed.

Mae cwmni News Corp, sydd yn berchen i Rupert Murdoch, yn cyhoeddi nifer o bapurau newydd ar draws y byd gan gynnwys y Times, y Sun a’r New York Post.