David Duckenfield
Mae prif heddwas yr heddlu yn Hillsborough wedi cytuno mai ei fethiant i gau twnnel oedd “achos” marwolaethau 96 o gefnogwyr Lerpwl.

Mae’r cyn-Brif Uwch-arolygydd David Duckenfield eisoes wedi dweud wrth y cwest nad oedd ganddo ddigon o brofiad mewn trefnu a goruchwylio gemau pêl-droed mawr, a’i fod wedi gwneud “camgymeriad difrifol” trwy beidio â gofyn am gymorth i wneud hynny

Heddiw, dywedodd David Duckenfield, 70, ei fod wedi “rhewi” yn ystod y drychineb pêl-droed yn 1989 cyn iddo orchymyn bod giât yn cael ei agor fel bod cefnogwyr yn gallu dianc o’r wasgfa.

Mae David Duckenfield bellach wedi ymddeol, a heddiw roedd yn tystiolaeth am y chweched diwrnod yn y cwest newydd i’r drychineb yn Warrington, Sir Gaer.

Cafodd wybod mai ef fyddai’n cadw trefn ar gêm gynderfynol Cwpan yr FA yn 1989 rhwng Lerpwl a Nottingham Forest, lle bu farw 96 o gefnogwyr Lerpwl, 15 diwrnod cyn iddi gael ei chynnal.