Mae’r heddlu’n ymchwilio i neges sarhaus ar wefan gymdeithasol Facebook am y bobol a gafodd eu lladd gan lori sbwriel yn Glasgow.

Cafodd yr heddlu wybod am y neges oedd wedi’i phostio gan ddynes o Gaerefrog.

Daw’r digwyddiad diweddaraf wedi i ddyn 19 oed o Sunderland gael ei arestio am bostio neges sarhaus ar Twitter yn dilyn y trychineb ddydd Llun.

Dywedodd Heddlu Gogledd Swydd Efrog ar eu tudalen Twitter eu bod nhw’n ymwybodol o’r neges sarhaus a’u bod nhw’n cynorthwyo Heddlu’r Alban gyda’r ymchwiliad.

Cafodd y dyn 19 oed ei ryddhau ar fechnïaeth.