Will Cornick
Mae bachgen 16 oed wedi cael ei ddedfrydu i garchar am oes yn Llys y Goron Leeds ar ôl iddo gyfaddef llofruddio’r athrawes Ann Maguire.

Bydd yn rhaid i Will Cornick dreulio isafswm o 20 mlynedd dan glo.

Roedd Cornick wedi trywanu Ann Maguire, 61, wrth iddi ddysgu yng Ngholeg Catholig Corpus Christi yn Leeds ym mis Ebrill.

Roedd yn 15 oed ar y pryd.

Mae’r barnwr wedi ei rybuddio ei fod yn bosib na fydd e byth yn cael ei ryddhau.

Wrth ei ddedfrydu heddiw yn Llys y Goron Leeds, dywedodd Mr Ustus Coulson bod Will Cornick wedi dangos balchder yn yr hyn a wnaeth ac nad oedd yn edifar am lofruddio’r athrawes.

Clywodd y llys fod Cornick wedi dweud wrth blant eraill ei fod yn casáu Ann Maguire ac am iddi farw.

Mewn negeseuon ar Facebook ar Noswyl Nadolig 2013, roedd wedi dweud wrth ffrind ei fod eisiau lladd Ann Maguire fel y gallai dreulio gweddill ei fywyd yn y carchar ac na fyddai’n rhaid iddo boeni am fywyd nac arian.

Dywedodd wrth seiciatrydd ei fod wedi cynllwynio’r llofruddiaeth a’i fod eisiau cael ei ddal a mynd i’r carchar.

Roedd wedi dweud wrth ddisgyblion eraill ei fod am ymosod ar Ann Maguire ar fore’r llofruddiaeth, ac wedi dangos rhai o’r cyllyll roedd wedi dod gydag ef.

Roedd rhieni Will Cornick a theulu Ann Maguire yn y llys ar gyfer y gwrandawiad.

Mae’r barnwr wedi codi’r gwaharddiad ar gyhoeddi enw Will Cornick.