Mae 11 o bobol wedi cael eu harestio mewn ymgyrch yn erbyn cam-drin merched ifanc yn rhywiol yn ardal Manceinion.

Mae’r camdrinwyr honedig, sydd rhwng 19 a 38 mlwydd oed, yn y ddalfa ar amheuaeth o amryw o droseddau sy’n cynnwys gweithgarwch rhywiol gyda phlentyn, ymgais i ymosod yn anweddus, annog puteindra, cipio a threisio.

Ac mae llefarydd ar ran Heddlu Manceinion yn dweud ei bod yn disgwyl rhagor o arestio wrth i’r ymchwiliad barhau – rhan o weithredu ar y cyd gan nifer o asiantaethau yn ne’r ddinas.

Y cefndir

Daw’r ymgyrch ddiweddaraf gan yr heddlu ar adeg o graffu cynyddol ar y ffordd y mae heddluoedd, wedi delio â honiadau o gam-drin rhywiol yn erbyn plant.

Ynghynt y mis yma, fe gafodd y llu eu beirniadu am fethu â gweithredu tros honiadau cynharach fod gangiau’n cam-drim merched ifanc.

Mae adroddiadau damniol yn erbyn sawl heddlu wedi honni bod cam-drin plant wedi cael ei anwybyddu gan blismyn ers blynyddoedd.

Roedd adroddiad gan grŵp seneddol heddiw yn dweud bod yr ymateb yn amrywio’n fawr o le i le.