Mae dyn 33 oed, a gafodd ei ddarganfod ar Ynys Wyth gyda merch 15 oed a oedd wedi bod ar goll,  wedi cael ei arestio  ar amheuaeth o gipio plentyn.

Cafodd Rebecca McLean, 15, o Southampton, Hampshire ei gweld y tro diwethaf gyda Michael Britten, 33, yn Ryde ar Ynys Wyth fore dydd Sadwrn.

Dywedodd yr heddlu yn Hampshire ei bod wedi ei darganfod yn ddiogel ar yr ynys a bod Michael Britten yn helpu’r heddlu gyda’u hymchwiliadau.