Lee Rigby
Mae’r ddau ddyn a lofruddiodd y milwr Lee Rigby wedi cael eu dedfrydu i garchar am oes yn yr Old Bailey heddiw.

Cafodd Michael Adebolajo, 29, ei ddedfrydu i garchar am oes heb obaith am barol. Bydd yn rhaid i Michael Adebowale, 22, dreulio isafswm o 45 mlynedd yn y carchar.

Roedd Michael Adebolajo, 29, a Michael Adebowale, 22, wedi taro’r milwr gyda’u car cyn ymosod arno gyda chyllyll ger barics Woolwich yn ne ddwyrain Llundain ar 22 Mai’r llynedd.

Roedd ’na olygfeydd dramatig yn y llys ar ôl i Adebolajo a Adebowale ddechrau gweiddi ar y barnwr Mr Ustus Sweeney mewn protest yn erbyn ei sylwadau. Bu’n rhaid i swyddogion diogelwch rwystro’r ddau. Cafodd y ddau eu dedfrydu yn eu habsenoldeb ar ol cael eu hebrwng o’r llys.