Ann Keane
Mae ymgynghoriad yn cael ei lansio i ba mor aml mae ysgolion yn cael eu harolygu.

Fe allai olygu bod ysgolion yn cael llai o rybudd o arolwg, ac felly llai o amser i wneud gwelliannau sydyn cyn bod arolygwyr yn cyrraedd.

Llywodraeth Cymru a’r corff sy’n arolygu addysg yng Nghymru, Estyn, sy’n cynnal yr ymgynghoriad ar y cyd ac fe allai arwain at newid deddfwriaeth yng Nghymru.

Dywedodd Ann Keane, Prif Arolygydd Estyn, fod “hwn yn ymgynghoriad pwysig sydd â’r potensial i newid y ffordd yr ydyn ni’n arolygu, lleihau’r straen ar athrawon a lleihau’r demtasiwn i ysgolion baratoi’n ormodol ar gyfer arolygiad gan y byddai’n anoddach rhagweld pryd y byddai’r arolygiad yn digwydd.”

Arolwg annisgwyl

Ar hyn o bryd caiff ysgolion a darparwyr eu harolygu bob chwe blynedd.  Maen nhw’n cael rhybudd o 20 diwrnod gwaith cyn arolwg, ond yn gallu rhagweld pryd daw’r arolwg nesaf.

Mae’r ymgynghoriad yn cynnig y byddai arolygon annisgwyl yn arwain at lai o straen i athrawon nag arolwg sydd ar y gorwel flynyddoedd o flaen llaw.

Mae’r ddogfen ymgynghori yn cydnabod y gall ysgolion sy’n cyflawni’n dda gael eu harolygu’n llai rheolaidd.

Mae’r ymgynghoriad hefyd yn argymell lleihau’r amser sydd gan ysgol neu ddarparwr i baratoi cynllun gweithredu wedi’r arolwg. Ar hyn o bryd gall gymryd hyd at 80 diwrnod gwaith.

Yn ôl Gweinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews, “mae’n hanfodol bod proses arolygu Estyn, sydd eisoes yn un gadarn, mor drylwyr â phosib.”

Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus ar agor tan Fai 1.