Owain Gwynedd
Ceiniogwerth Owain Gwynedd ar obeithion ein tîm rygbi cenedlaethol ar gychwyn y Chwe Gwlad. Mae’r blogiwr rygbi wedi cyffroi y
n l
ân!

O’r diwedd, mae’r disgwyl drosodd. Y disgwyl cyn y bu’r tîm rygbi rhyngwladol yn gallu cywiro’r iselfanau o’r chwe mis diwethaf – mae’r Chwe Gwlad wedi cyrraedd!!!

Ond cyn gallu edrych ymlaen at y gystadleuaeth ac i ddarogan sut fydd y Cochion yn gwneud mae’n anodd anwybyddu rhediad gwael Cymru a chanlyniadau’r rhanbarthau yn Ewrop.

Mae tîm Rob Howley, gan fod Warren Gatland wedi bod i ffwrdd efo’r Llewod, wedi colli’r saith gêm ddiwethaf yn olynol. Y rhediad gwaethaf o ganlyniadau ers colli deg o’r bron rhwng Tachwedd 2002 ac Awst 2003. O ganlyniad mae Cymru wedi llithro i’r 9fed safle yn rhestr detholion y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol (IRB).

Ar y lefel rhanbarthol mae darllen canlyniadau Ewrop yn fwy poenus fyth. Dim ond pum buddugoliaeth mewn 24 gêm.

Os ydi hynny ddim digon mae rhestr anafiadau Cymru yn parhau i fod yn anferthol gyda chwaraewyr allweddol megis Alun Wyn-Jones, Luke Charteris, Bradley Davies, Rhys Priestland a Dan Lydiate heb fod ar gael.

Dim syndod bod hyder y garfan a’r cefnogwyr yn isel.

Ond Cymru yw Pencampwyr y Chwe Gwlad, ar ôl cyflawni’r Gamp Lawn y llynedd, a hefyd y tîm wnaeth orffen yn bedwerydd yng Nghwpan y Byd. Felly, mae rhywun yn gobeithio y bydd Cymru yn gallu ail gydio yn uchelfannau union flwyddyn yn ôl a dangos ‘class is permanent, form is temporary’ fel bysa’r Sais yn ddweud.

Y Cefnwyr

Mae’r dywediad yna yn wir i nifer o unigolion. Er bod y rhanbarthau yn tan berfformio ac yn colli mae nifer o chwaraewyr Cymru yn chwarae yn dda ac wedi ail ddarganfod eu safon. Yn ystadegol mae chwaraewyr megis Jamie Roberts, Jonathan Davies, Alex Cuthbert a Leigh Halfpenny yn ddewis cyntaf i’r Llewod.

Wrth ychwanegu’r bythol hyderus Mike Phillips a Dan Bigger i’r rhestr yna o gefnwyr mae gan y Cochion linell ôl sydd llawn hunan gred gyda’r gallu i fygwth unrhyw dîm. Heb anghofio am Gogzilla, gall rhywun ddadlau mai Cymru sydd efo’r cefnwyr gorau ar bapur.

Rhaid nodi efallai nad yw’r maswr Bigger yn taro’r nodyn cywir i bawb. Ond rhaid cyfaddef mai fo sydd wedi chwarae yn rheolaidd ac yn gyson yn y safle hwnnw. Dw i’n teimlo bod o’n haeddu cyfle cyn James Hook, sy’n dalentog ond anwadal.

Y Blaenwyr

Beth am y pac? Tydi rhywun methu cwyno yn ormodol efo rheng flaen taith ddiwethaf y Llewod, fe ddylsa nhw fedru dal eu tir.

Yr ail reng sy’n peri pryder. Alun Wyn, Charteris a Bradley Davies ddim ar gael. Ac er i Ian Evans chwarae pob munud o’r bencampwriaeth y llynedd tydi o heb chwarae ers yr Hydref. Dim ond gobeithio ei fod o wedi gallu cadw lefel uchel o ffitrwydd. Os ddim mae’r cawr 6’7” a bron i 22 stôn Olly Khon ar y fainc. Siŵr fydd ei faint anferthol yn gallu gwneud tipyn o niwed.

Yna Andrew Coombs yn ennill ei gap cyntaf, ac yntau ond wedi symud i’r ail reng ers dechrau’r tymor. Ydi o ddigon da i’r lefel rhyngwladol? Amser a ddengys. Ac yntau’n 28 mlwydd oed, mi fysa rhywun yn tybio y byddai o wedi cael ei gyfle yn gynt.

Mae’r rheng ôl yn gorfod ymdopi heb Dan Lydiate, Chwaraewr Y Chwe Gwlad 2012. Colled anferthol. Yn ei le mae Arron Shingler wedi cael ei ddewis ynghyd â Warburton a Faletau. Rhywun sydd wedi llenwi bwlch yn wych yn y gorffennol ac sydd efallai yn rhoi gwell cydbwysedd i’r tîm nag y buasai Justin Tipuric wedi ei gynnig. Er dweud hynny mae Tipuric wedi gwneud popeth yn iawn y tymor yma ac yn haeddu cyfle yn y tîm, felly fydd o siŵr o chwarae rôl bwysig wrth i’r gystadleuaeth ddatblygu.

Er mwyn cael cyfle i guro Iwerddon a mynd ymlaen i efelychu’r gorffennol rhaid i’r pac berfformio. Yn y fan yma fydd gemau yn cael eu hennill a’u colli. Rhaid i’r pump ôl o’r wyth blaen berfformio ac ail ddarganfod eu sbarc o’r chwiban gyntaf os am fuddugoliaeth.

Pwy sydd yn mynd i ennill y  Chwe Gwald?

Yn syml, nid Yr Eidal na’r Alban.

O’r gweddill gall unrhyw un o’r pedwar ddod yn bencampwyr.

Rhaid dweud mai Ffrainc, y pedwerydd tîm ar rest detholion IRB, a Lloegr, ar ôl curo Seland Newydd yn yr Hydref, ydi’r ffefrynnau.

Ar ei dydd mae gan Iwerddon y chwaraewyr i guro unrhyw dîm yn y byd. Maen nhw i gyd yn chwarae i dimau sydd wedi bod yn llwyddiannus neu yn bencampwyr Cwpan Heineken dros y blynyddoedd diwethaf, ond ar brydiau maen nhw wedi bod yn anwadal. Byddai curo Cymru yn y gêm gyntaf yn gosod y sylfaen perffaith i’w hymgyrch.

Ond fel dw i’n ysgrifennu hyn i gyd dwi’n gwylio ‘Grand Slam 2012’ gan Eddie Butler. Doedden ni ddim i fod i guro Iwerddon yn y gêm gyntaf llynedd ac yn arbennig y Gamp Lawn. Felly, be a pwy sydd yn dweud bod rhaid i bethau fod yn wahanol y tro yma?

Dw i wedi gwirioni a chyffroi yn lân fel plentyn ar noswyl Nadolig. Mae nghalon i yn sgrechian Cymru i guro Iwerddon ac i fagu’r hyfer i ennill yr holl beth.

C’mon Cymru!!!!