Mae yna rybudd am lifogydd ar lannau afon Ddyfrdwy heddiw wedi i lefel y dŵr godi ers neithiwr.

Gallai’r rhybudd o Langollen i Gaer fod mewn grym am hyd at 24 awr arall, ac mae disgwyl glaw a gwyntoedd cryfion fory.

Mae camau wedi cael eu cymryd er mwyn ceisio atal yr afon Ddyfrdwy rhag gorlifo ymhellach.

Mae rhai ffyrdd eisoes wedi bod ar gau yng Ngwynedd, Sir Gaerfyrddin a Phowys dros y penwythnos oherwydd llifogydd.

Mae yna rybudd hefyd y gallai ardaloedd yn ymyl y Gwy yn Sir Fynwy, y Tywi ger Llandeilo, yr Hafren ym Mhowys ac arfordir Sir Benfro, Abertawe a Phenrhyn Gŵyr ddioddef pe bai rhagor o law yn cwympo heddiw.

Roedd mwy na 40 o rybuddion am lifogydd yng Nghymru dros y penwythnos, ond dim ond 12 ohonynt sydd yn parhau heddiw.