Mae Cymru yn paratoi at gyfnod arall o dywydd garw gyda rhybuddion am ragor o eira a phosibilrwydd o lifogydd yfory.

Mae rhybudd melyn, sy’n annog pobl i fod yn wyliadwrus, wedi cael ei gyhoeddi gan Asiantaeth yr Amgylchedd.

Maen nhw’n rhybuddio am eira yn y gogledd ddwyrain a glaw yn y de. Fe all y glaw arwain at lifogydd mewn rhai mannau.

Yn dilyn chwe diwrnod o dywydd garw, fe wnaeth miloedd o blant ddychwelyd i’r ysgol heddiw.

Mae disgwyl y bydd cawodydd o eira  yng ngogledd orllewin Cymru tua 9 bore fory a bydd glaw trwm yn ne Cymru o 3yh ymlaen.

Mae rhybuddion y gall y glaw, ynghyd ag eira’n toddi, arwain at lifogydd.

Dywedodd Asiantaeth yr Amgylchedd: “Gall lefelau’r afonydd godi ac mae posibilrwydd y byddwn ni’n cyhoeddi rhybuddion llifogydd ond mae’r tebygolrwydd o lifogydd o afonydd mawr yn isel.

“Dylid bod yn ofalus gan y gallai amodau gyrru fod yn beryglus.”