Bydd aelodau Cymdeithas yr Iaith yn cynnal rali yng Nghaerfyrddin y bore yma i ddatgan eu pryder am y dirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sir.

Yn ôl ffigurau’r cyfrifiad a gafodd eu cyhoeddi’r mis diwethaf, Sir Gaerfyrddin a welodd y dirywiad gwaethaf yn nifer y siaradwyr Cymraeg trwy Gymru, gyda llai na hanner o bobl y sir yn gallu’r iaith bellach.

Wrth fynnu dyfodol i gymunedau Cymraeg y sir, nod Cymdeithas yr Iaith yw casglu enwau mil o enwau ar gyfer eu hadduned: “Addunedwn fyw yn Gymraeg a mynnwn fod creu amodau i gymunedau Cymraeg fyw”.

Dau ffigur amlwg sydd wedi datgan eu bod am lofnodi’r adduned yw Aelod Cynulliad Llanelli a chyn-gyfarwyddwr addysg y sir, Keith Davies ac Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr Jonathan Edwards.

Ymhlith eraill sydd wedi arwyddo’r adduned mae’r actorion Julian Lewis Jones, Rhian Morgan a Gwyn Elfyn; y cyn-archdderwydd John Gwilym Jones, cyn-lywydd Merched y Wawr Glenys Thomas, Is-Lywydd Undeb Amaethwyr Cymru Brian Walters a Fflur Dafydd a Tudur Dylan o fyd y celfyddydau.

“Ein gobaith yw y bydd dros fil o bobl y sir wedi llofnodi’r Adduned cyn diwedd y mis,” meddai Sioned Elin, Cadeirydd Rhanbarth Sir Gâr o Gymdeithas yr Iaith. “Mae pawb wedi cael sioc gan ffigurau’r Cyfrifiad a byddwn yn dod at ein gilydd Ddydd Sadwrn i ddangos ein bod o ddifri am fynnu byw ein bywydau’n Gymraeg ac yn mynnu fod y llywodraeth a’r Cyngor Sir yn gweithredu strategaeth frys i gryfhau’n cymunedau Cymraeg.”

Mae’r rali’n cychwyn y tu allan i Neuadd y Sir am 11 y bore yma.