Catherine Gowing
Mae dyn 46 oed wedi pledio’n euog i gyhuddiad o lofruddio’r milfeddyg Catherine Gowing yn y llys heddiw.
Roedd Clive Sharp, sydd heb gyfeiriad penodol, wedi ymddangos o flaen Llys y Goron yr Wyddgrug bore ma ar gyhuddiad o lofruddio Catherine Gowing, 37, ym mis Hydref y llynedd.
Dechreuodd yr heddlu chwilio am y milfeddyg ar ôl iddi fethu â mynd i’w gwaith ym milfeddygfa Evans yn yr Wyddgrug, ar 15 Hydref.
Cafodd Catherine Gowing, oedd yn dod o Sir Offaly yn Iwerddon yn wreiddiol, ei gweld am y tro olaf mewn archfarchnad ar ddydd Gwener, 12 Hydref.
Wedi’r ymgyrch chwilio fwyaf mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ei ymgymryd, daeth yr heddlu o hyd i weddillion ei chorff bythefnos yn ddiweddarach, mewn dŵr bâs yn Sealand, Glannau Dyfrdwy.
Fe fydd Clive Sharp yn cael ei ddedfrydu ddiwedd mis Chwefror.