Suzy Davies AC
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am beidio gwario ar farchnata Cymru yn Sbaen a’r Iwerddon ers 2010 – er bod yna gysylltiadau trafnidiaeth uniongyrchol rhwng Cymru a’r gwledydd yma.

Mae awyrennau yn hedfan o 7 maes awyr yn Sbaen i Gaerdydd yn rheolaidd ac mae llongau fferi yn teithio yn ddyddiol i’r Iwerddon o Benfro, Abergwaun a Chaergybi.

Yn ôl Suzy Davies AC, llefarydd y Ceidwadwyr ar Dreftadaeth, fe wnaeth Llywodraeth Cymru wario £121,000 ar ddenu ymwelwyr o Sbaen a’r Iwerdddon yma yn 2008-9 ond does yr un geiniog wedi cael ei gwario ar wneud hynny ers 2010.

“Mae’r ffigyrau yma yn awgrymu bod Llywodraeth Lafur Cymru yn gwneud camgymeriad mawr yn peidio marchnata Cymru i’n cymdogion agosaf dramor,” meddai.

“Mae’n haws cyrraedd Sbaen a’r Iwerddon o Gymru nag o unrhyw wlad yn y byd ac eto dyw’r Llywodraeth ddim yn gwario i farchnata Cymru yno.”

Ychwanegodd y buasai’n llawer mwy cost effeithiol ac yn well i’r economi petai’r Llywodraeth yn marchnata Cymru dramor yn iawn yn hytrach nag arwyddo siec wag i brynu maes awyr Caerdydd.