Bu Aelodau’r Cynulliad yn trafod canlyniadau siomedig y Cyfrifiad ynghylch yr iaith Gymraeg yn y Senedd heddiw.

Dywedodd  Leighton Andrews AC ei fod yn cydnabod bod problem ond bod y Llywodraeth wedi dangos llawer o gefnogaeth i’r Gymraeg yn y blynyddoedd diwethaf trwy basio’r mesur Cymraeg newydd yn 2011, sefydlu Comisiynydd y Gymraeg a strategaeth Gymraeg newydd i’r Llywodraeth.

Aeth ymlaen i ddweud bod llawer o resymau i ddathlu hefyd:

“Mae’r twf mewn addysg cyfrwng Cymraeg, ynghyd â grwpiau fel mudiad meithrin wedi galluogi miloedd lawer o bobl ifanc a phlant i ddysgu Cymraeg,” meddai.

Ond ychwanegodd bod angen syniadau eang a chreu mwy o ddefnydd o’r Gymraeg mewn technoleg a chyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd Simon Thomas o Blaid Cymru ei bod hi’n anhygoel bod y Gymraeg wedi goresgyn a bod angen cofio am y llwyddiannau hefyd, nid canolbwyntio ar y pryderon am ei dyfodol yn unig.

Aeth ymlaen i longyfarch dysgwyr fel Leanne Wood a David Melding sy’n defnyddio’r Gymraeg yn y Cynulliad.