Prifysgol Cymru
Mae Plaid Cymru wedi beirniadu codiad cyflog o bron i £20,000 y flwyddyn i gyn-Is-Ganghellor Prifysgol Cymru.

Roedd cyflog yr Athro Marc Clement wedi  codi o £121,082 yn 2010-11 i £140,150 y flwyddyn yn 2011-12, yn ôl Plaid Cymru yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth.

Roedd hefyd wedi derbyn tal  “honorariwm dewisol” o £10,000 yn 2010-11.

Daeth yr Athro Clement wedyn yn Llywydd Prifysgol Cymru ym mis Hydref 2011 gyda chyflog o £140,150 y flwyddyn, ond cadarnhawyd ym mis Gorffennaf eleni ei fod yn cymryd swydd newydd ym Mhrifysgol Abertawe. Bu swydd y Llywydd yn wag ers hynny.

‘Sylw anffafriol’

Dywedodd Plaid Cymru ei bod yn anodd deall y penderfyniad i roi codiad cyflog iddo a hynny yn sgil yr  anghydfod ynghylch graddau tramor.

Dywedodd Lindsay Whittle, AC Plaid Cymru dros Ddwyrain De Cymru: “Bydd yn anodd gan y cyhoedd ddeall sut y cafodd y cyn-Is-Ganghellor godiad yn ei gyflog sylfaenol o ystyried y sylw anffafriol a gafodd y brifysgol yn ystod ei amser yn y swydd.

“Mae’n anodd deall hefyd sut y daethpwyd i benodi’r Athro Clement wedyn yn Llywydd ar gyflog chwe-ffigwr arall.”

Ymddiswyddodd pennaeth coleg ym Malaysia oedd â chysylltiadau â’r Brifysgol ym mis Tachwedd 2010 yng nghanol ymchwiliad i’w gymwysterau ffug.

Yna, ym mis Hydref y llynedd, cyhoeddwyd y buasai Prifysgol Cymru yn rhoi’r gorau i ddilysu graddau gan brifysgolion a sefydliadau academaidd gartref a thramor. Dywedodd gwleidyddion ar y pryd fod Prifysgol Cymru wedi dwyn “gwarth” ar enw’r genedl.

Cyhoeddwyd ym mis Hydref 2011 y bydd Prifysgol Cymru yn uno gyda dau sefydliad arall o dan Siarter Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant yn 2017-18.

Rhyddhawyd y ffigyrau gan y brifysgol yn dilyn cwyn gan Blaid Cymru i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Dywed Prifysgol Cymru bod pwyllgor wedi trafod ac wedi cytuno gyda’r taliadau i’r Athro Clement.