Mae’r corff sy’n cynrychioli buddiannau cyfansoddwyr a cherddorion Cymraeg wedi dod i gytundeb gydag S4C.

Bydd trwydded rhwng Eos ac S4C yn galluogi’r darlledwr i ddefnyddio repertoire gyfan Eos o 1 Ionawr ymlaen.

Mae’r ddau gorff wedi bod yn trafod telerau’r drwydded newydd ers mis Hydref, ar ôl i 331 o gerddorion, awduron a chyhoeddwyr Cymraeg drosglwyddo eu hawliau darlledu o PRS i Eos, yr asiantaeth hawliau darlledu newydd.

Mae’r drwydded newydd yn adlewyrchu dymuniad S4C ac Eos i gerddoriaeth Gymraeg barhau i fod yn rhan o wasanaethau S4C.

Cydweithio

Mewn ymateb i’r newyddion, dywedodd Gwilym Morus, Cadeirydd Eos:

“Rydym yn falch iawn o fedru dod i gytundeb gydag S4C. Mae hyn yn golygu bydd cerddoriaeth aelodau Eos yn parhau i gael ei defnyddio gan ein sianel deledu genedlaethol.

“Rydym yn diolch i benaethiaid S4C am gynnal y trafodaethau hyn mewn ysbryd o gydweithio er mwyn cyrraedd cytundeb.”

Meddai Cyfarwyddwr Polisi Corfforaethol a Masnachol S4C, Elin Morris: “Rydym yn falch iawn ein bod ni, drwy’r cytundeb yma, wedi gallu dangos unwaith eto ein hymrwymiad i gerddorion Cymraeg – ac i’n cynulleidfaoedd sydd am wrando ar eu cynnyrch.

“Drwy’r cytundeb hwn, rydym yn llwyddo i osgoi toriad yn y defnydd o waith artistiaid Eos, ac yn gallu mwynhau’r manteision o gael trwydded flanced am holl weithiau aelodau Eos. Ond yn bennaf oll, fe fyddwn yn gallu parhau i gynnwys gwaith amryw o gerddorion Cymraeg ar wasanaethau S4C i gwrdd â dyheadau’n cynulleidfaoedd.”

Mae’r anghydfod rhwng Eos a Radio Cymru’n dal i fod heb gael ei ddatrys hyd yma.